TELERAU AC AMODAU CYFEIRIADUR DYLUNIO CYMRU

Nod Cyfeiriadur Dylunio Cymru yw codi ymwybyddiaeth o'r arbenigedd dylunio sydd ar gael yng Nghymru. Mae'r profiad, prosesau gwaith a gwerth am arian a gynigir gan bob ymgynghoriaeth dylunio yn amrywio'n eang ac mae'n bwysig eich bod yn dewis yr ymgynghorydd sy'n cyd-fynd ag amcanion a chyllideb eich busnes.

Mae Dylunio Cymru yn argymell yn gryf eich bod yn dilyn proses ddethol sy'n cynnwys drafftio briff dylunio, cynllun prosiect a chytundeb prosiect (gyda chostau, canlyniadau a chyfrifoldebau).

Cysylltwch â Dylunio Cymru os hoffech gael cyngor ar reoli prosesau dylunio yn eich cwmni a/neu ddewis arbenigedd dylunio allanol.

Cyflwyniad

Caiff y Cyfeiriadur Dylunio ei weithredu gan Dylunio Cymru. Mae'r wefan yn dangos arbenigedd dylunio yng Nghymru ac yn darparu cronfa ddata y gall ymwelwyr sy'n dymuno defnyddio'r arbenigedd hwn ei harchwilio.

Defnyddio'r wefan

    1. Mae'r telerau ac amodau yn berthnasol i wefan Cyfeiriadur Dylunio Cymru o dan yr enwau parth www.designdirectorywales.org, www.designdirectorywales.org.uk, www.cyfeiriadurdyluniocymru.org, www.designdirectorywales.co.uk a www.designdirectorywales.com ("y wefan").

    Mae'n rhaid i chi dderbyn y telerau ac amodau hyn er mwyn defnyddio'r wefan. Os na fyddwch yn derbyn y telerau ac amodau hyn yna peidiwch â pharhau i ddefnyddio'r wefan.

    2. Mae Dylunio Cymru yn cadw'r hawl i ddiwygio'r telerau ac amodau hyn heb rybudd. Rydym yn argymell eich bod yn adolygu'r telerau ac amodau hyn yn rheolaidd fel y byddwch yn ymwybodol o unrhyw newidiadau a allai fod wedi codi. Mae parhau i ddefnyddio'r wefan ar ôl i'r newidiadau hyn gael eu gwneud yn awgrymu eich bod wedi cytuno i dderbyn i newidiadau hyn.
    3. Caiff ymwelwyr eu hatgoffa mai er cyfleustra yn unig y darperir y deunydd a gyflwynir gan bob ymgynghoriaeth dylunio; ni ddylid ystyried ein bod yn cymeradwyo cynnwys y deunydd hwnnw. Er bod Dylunio Cymru yn rheoli'r wefan, nid ydym yn gweithredu fel asiant ar gyfer yr ymgynhoriaethau dylunio a restrir yn y cyfeiriadur hwn ac ni allwn warantu y bydd y gwasanaeth a ddarparant yn bodloni eich gofynion. Cyfrifoldeb yr ymwelwyr yw cadarnhau union natur y gwasanaeth a gynigir gan ymgynghoriaeth dylunio. Os byddwch yn ymrwymo i gontract gydag ymgynghoriaeth dylunio, mae'r contract rhyngoch chi a'r ymgynghoriaeth; nid yw ymrwymo i gontract gydag ymgynghoriaeth dylunio yn creu perthynas asiantaeth gyda Dylunio Cymru. Nid ydym yn cynnig gwasanaeth cyflafareddu ac ni fyddwn yn atebol i dalu cost ffioedd cyfreithiol pe byddai anghydfod cyfreithiol. Ni fydd Dylunio Cymru, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw achos o golli refeniw neu fusnes, nac am unrhyw niwed i ewyllys da busnes a allai ddeillio o neu sy'n gysylltiedig â defnyddio'r wefan.
    4. Mae ymgynghoriaethau dylunio yn gyfrifol am sicrhau bod y deunydd a gyflwynir yn gywir ac yn cydymffurfio â phob deddf berthnasol. Mae cyflwyno dogfen portffolio yn cadarnhau eich bod wedi cytuno i ni wneud y deunydd hwn ar gael i'r cyhoedd. Er mwyn sicrhau bod y deunydd a gynhwysir yn y wefan yn ddiweddar byddwn yn cysylltu â chi oddeutu bob chwe mis yn gofyn i chi sicrhau bod y data yn gywir o hyd. Os na fyddwch yn cytuno i hyn, yna ni allwch gyflwyno cofnod ar y gronfa ddata.
    5. Ni ddylech gyflwyno manylion trydydd parti ar y gronfa ddata. Ni fyddwn yn gyfrifol am gysylltu â thrydydd parti y mae eu manylion cyswllt wedi'u cyflwyno heb ganiatâd.

Eiddo deallusol

    6. Ac eithrio'r deunydd a gyflwynwyd gan yr ymgynghoriaethau dylunio, eiddo Dylunio Cymru a thrydydd partïon sydd wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eu gwaith yw hawlfraint a phob ffurf arall ar eiddo deallusol sy'n bodoli yng nghynnwys y wefan. Gallwch bori, argraffu a llwytho detholiadau i lawr o'r wefan ar ddisg galed leol at eich defnydd personol ac anfasnachol eich hun. Gallwch hefyd gopïo detholiadau ar gyfer trydydd partïon unigol at eu defnydd personol eu hunain ar yr amod eich bod yn cydnabod y wefan fel ffynhonnell y deunydd, ac yn nodi bod yn rhaid i'r trydydd parti dderbyn y telerau ac amodau hyn. Gwaherddir unrhyw ffurf arall ar gopïo, ailgynhyrchu, ailddosbarthu, trosglwyddo neu storio heb ganiatâd ysgrifenedig Dylunio Cymru ymlaen llaw. Cysylltwch ag ipr@designwales.org i gael caniatâd.
    7. Ni allwch ddefnyddio ein nod masnach heb ein caniatâd. Cysylltwch ag ipr@designwales.org i gael caniatâd.
    8. Gallai'r wefan gynnwys cyfeiriadau at nodau masnach nad yw Dylunio Cymru yn berchen arnynt. Nid yw cyfeiriadau at nod masnach y mae trydydd parti yn berchen arno yn awgrymu bod gennym unrhyw hawliau o ran y nod.

Ymwrthodiad

    9. Ni fydd Dylunio Cymru, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o ddefnyddio neu golli'r gallu i ddefnyddio data neu elw, sy'n deillio o neu sy'n gysylltiedig â defnyddio'r wefan.
    10. Mae Dylunio Cymru yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r wybodaeth a gynhwysir yn y wefan.
    11. Cyfrifoldeb yr ymelwyr yw gwirio'r wybodaeth a gynhwysir yn y wefan a monitro unrhyw newidiadau a wneir i'r wefan.

Datganiad preifatrwydd

    12. Mae'r wefan yn casglu'r mathau canlynol o wybodaeth am ymwelwyr:

      i. Ffeiliau cofnodi ymwelwyr Defnyddir y rhain i gasglu ystadegau defnyddio'r wefan ac nid ydynt yn cynnwys gwybodaeth bersonol a allai adnabod unigolion.

      ii. Enwau a chyfeiriadau e-bost ymwelwyr sydd wedi cysylltu â Dylunio Cymru trwy'r wefan. Caiff y wybodaeth hon ei thrin yn gyfrinachol a dim ond er mwyn ymateb i negeseuon e-bost gan ymwelwyr y caiff ei defnyddio. Ni fyddwn yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon.

    13. Mae cysylltu â ni dros yr e-bost yn awgrymu eich bod yn rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi dros yr e-bost er mwyn ymateb i'ch ymholiad.

Defnyddio data a gyflwynwyd gan ymgynghoriaethau dylunio

    14. Byddwn yn cysylltu â chi yn defnyddio'r data personol a gyflwynwyd am y rhesymau canlynol:
              i. Gofyn i chi ddiweddaru eich gwybodaeth. Cyfeiriwch at gymal 4 o'r telerau ac amodau hyn.
              ii. Eich hysbysu am newidiadau i'r gwasanaeth neu'r wefan a'u swyddogaethau.
              iii.Eich hysbysu o weithgareddau y mae Dylunio Cymru yn eu cynnal.
              iv.Cysylltu â chi ar ran trydydd partïon a ddewiswyd yn ofalus. Ni fyddwn yn datgelu data personol i unrhyw           drydydd partïon.

Os na fyddwch am i ni gysylltu â chi, anfonwch fanylion eich cais at admin@designdirectorywales.org.

Hypergysylltiadau i wefannau trydydd parti

    15. Darperir hypergysylltiadau i wefannau trydydd parti er cyfleustra yn unig. Nid yw Dylunio Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gynnwys neu ddibynadwyedd y gwefannau hyn ac nid yw presenoldeb cyswllt yn golygu ein bod yn cymeradwyo'r wefan. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros eu hargaeledd.
    16. Nid yw'r telerau ac amodau hyn yn cwmpasu gwefannau trydydd parti. Argymhellwn eich bod yn darllen telerau ac amodau pob gwefan arall y byddwch yn ymweld â hi.

Diogelwch firws

    17. Mae Dylunio Cymru wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau nad yw'r deunydd a gynhwysir yn y wefan yn cynnwys firws; fodd bynnag argymhellwn yn gryf eich bod yn rhedeg rhaglen gwrthfirws ar unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei lwytho i lawr o'r Rhyngrwyd. Ni fydd Dylunio Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu niwed i'ch system gyfrifiadurol a data a allai godi wrth ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan.

Awdurdodaeth

    18. Llywodraethir y telerau ac amodau hyn gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.

     

© 2005-2006 DYLUNIO CYMRU | telerau ac amodau | admin@designdirectorywales.org